P-04-496 Ysgolion pob oed

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno canllawiau i awdurdodau addysg lleol ar uno a chau ysgolion yn ymwneud ag ysgolion pob oed (hy ysgolion sy'n cynnig addysg gynradd, uwchradd ac ôl-16 ar yr un safle).

Gofynnwn i ganllawiau o'r fath:

¾    atal awdurdodau lleol rhag creu ysgolion ar ddau safle neu ragor, yn ymwneud ag ysgolion pob oed, os oes raid teithio dros 10 milltir rhwng y safleoedd.

¾    atal awdurdodau lleol rhag creu ysgolion ar ddau safle neu ragor, yn ymwneud ag ysgolion pob oed, cyn adleoli i un safle newydd, oni bai bod yr un safle newydd honno'n gallu darparu addysg i ddisgyblion o bob oed;

¾    cydnabod mai dymuniad rhai rhieni a disgyblion yw cael ysgol pob oed a'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ateb y galw am ysgolion o'r fath os oes digon o alw amdanynt;

¾    hyrwyddo ymdrechion i sefydlu ysgolion pob oed yng Nghymru ac i sicrhau eu bod yn parhau;

¾    sicrhau nad yw disgyblion, o ganlyniad i benderfyniad i gau neu uno ysgol, yn ymwneud ag ysgol pob oed, yn cael eu gorfodi i deithio dros 45 munud i ysgol sy'n darparu addysg ffydd addas.

 

 

Prif ddeisebydd:  Dawn Docx

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 24 Medi 2013

 

Nifer y llofnodion: 10